Cerddwch dros fryniau gwyrddion Sir Gaerfyrddin, trwy’r Goedwig atmosfferig Brechfa ac yna ar hyd yr hen ffordd Rufeinig hyd at arfordir gogledd Cymru. Medrwch ymweld ag abatai yn Hendygwyn-ar-daf, Ystrad Fflur a’r Cymer, y gaer Rufeinig yng Nhomen-y-mur (lle mae stori’r Mabinogi ynghylch Lleu Llaw Gyffes wedi ei leoli) a Chastell Dolwyddelan, man geni traddodiadol yr arweinydd Cymreig nodedig Llywelyn ap Iorwerth. Mae yno hefyd chwareli llechi, trefi marchnad prydferth ac eglwysi gwledig diarffordd i’w mwynhau.
Llwybrau gorllewinol |
---|
Dinbych y Pysgod - Hendy-gwyn ar Daf Ffynhonnau sanctaidd, marchogion sanctaidd, Abaty’r Grog Sanctaidd ... |
Trwy lonydd Sir Gaerfyrddin a Choedwig Brechfa a heibio tref brifysgol hynaf Cymru. |
Ffyrdd cefn a llwybrau trwy Langeitho a Tregaron i Ystrad Fflur, Abaty Westminster Cymru. |
Dilynwch ffordd Rufeinig 'Sarn Helen', dros fynyddoedd Pumlumon ac Elenydd. |
Dilynwch Sarn Helen heibio Trawsfynydd a Dolwyddelan ac yna dros y mynyddoedd i Gonwy. |
© Y Llwybr Sistersiaid / Polisi preifatrwydd