Llangynwyd Church

Llangynwyd

Llangynwyd, cysegrfa pererindota yn y canol-oesoedd

Llangynwyd Church

Cyfeirnod grid: o gwmpas SS 857 888

Mae gan yr eglwys ganol-oesol yn Llangynwyd sgrin y grog gyda cherfiad o’r croes-hoelio a oedd wedi ei gerfio mor rymus nes y credid y galliasai wneud gwyrthiau. Cyfansoddodd nifer o feirdd lleol gerddi yn ei anrhydeddu, ac roedd yn gyrchfan bererindota boblogaidd. Mae bwa’r gangell â ffenest ar oledd yn uchel uwch-law’r pulpud, a allasai nodi safle allor grog.

Y tu allan i’r eglwys mae cofeb i Ann Thomas, y ‘Ferch o Gefn Ydfa’, a’i chariad Wil Hopcyn. Roedd hi’n ferch i ffermwr lleol cyfoethog. Bwriad ei rheini oedd y dylai briodi mab tir-feddianwr lleol ond syrthiodd mewn cariad â Wil, plastrwr di-nod ond a oedd hefyd yn fardd crefftus. Fe’i gorfodwyd i briodi mab y tir-feddianwr a gorfodwyd Wil i adael y fro. Mewn breuddwyd fe’i clywodd hi yn galw arno; dychwelodd adref a’i chael yn ddifrifol wael, a bu farw yn ei freichiau. Mae cerddi Wil Hopcyn iddi hi, yn cynnwys yr enwog Bugeilio’r Gwenith Gwyn (lle mae’r bardd yn dweud ei fod yn gwylio’r gwenith yn aeddfedu ond mai dyn arall a gaiff fedi), yn rhan o draddodiad gwerin Cymru. Mae Ann a Wil ill dau wedi eu claddu yn y fynwent.

Llangynwyd yw’r lle olaf yng Nghymru hefyd lle mae hen draddodiad yn Nadolig - y Fari Lwyd - yn cael ei ddathlu o hyd. Mae’n bosib bod y ddefod wasael hon â’i gwreiddiau mewn cyltiau meirch o’r cyfnod cyn-Gristnogol. Addurnir penglog ceffyl, wedi ei roi ar bolyn, gyda rhubanau a’i gludo o dŷ i dŷ. Mae’r grŵp gyda’r ceffyl yn llunio caneuon yn fyrfyfyr yn holi am fynediad i’r tŷ. Mae’r bobl yn y tŷ yn gwrthod - hefyd ar gân. Yn y pendraw rhoddir mynediad i’r ceffyl a chaiff y dilynwyr fwyd a diod.

Ar waelod y cwm gellir gweld Castell Llangynwyd trwy’r coed ar y chwith, drws nesaf at Fferm y Castell. Adeiladwyd y castell gan arglwyddi Normanaidd Morgannwg, fel canolfan yn erbyn arglwyddi Cymreig Afan. Fe’i llosgwyd gan wrthryfelwyr ym 1294 ac ni chafodd erioed ei ail-adeiladu.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y castell o ymweld â safle Castlewales.

Places to llangynwyd

Llefydd

© Y Llwybr Sistersiaid / Polisi preifatrwydd