Ruins of the cloister at Margam

Llangynwyd i Fargam

Pellter: 7.5 km

Pa mor anodd: Cymedrol, ffyrdd bach a llwybrau da, ambell fan lle bo angen dringo.

Trafnidiaeth: Gwasanaethau trên a bysiau o Faesteg i Benybont-ar-ogwr. I ddal bysiau i Benybont-ar-Ogwr ac ymlaen i Gaerdydd croeswch y brif ffordd i’r dwyrain o Langynwyd (yr orsaf drenau agosaf yw'r Garth). Mae bysiau rhwng Castell Nedd a Penybont-ar-ogwr yn rhedeg ar hyd yr A48, jyst  i’r de o Fargam (enw’r arosfa agosaf yw Parc Margam). Yr orsaf drên agosaf yw Port Talbot, a wasanaethir gan fysiau lleol. Gweler http://www.traveline.cymru/  i gael manylion pellach.

Mae’n bosib y bydd rhai o’r llwybrau trwy Barc Margam yn cael eu dargyfeirio yn ystod yr hydref er mwyn caniatáu lladd ceirw (y mae ei angen er mwyn cadw’r hyddgant yn iach). Bydd hysbysiadau yn cael eu harddangos, ynteu mynnwch gip ar wefan y parc, sydd i’w gael o fynd at http://www.margamcountrypark.co.uk/.

Gadewch eglwys Llangynwyd trwy’r glwyd isaf, trowch i’r dde a cherdded heibio’r gofeb ac yn syth i lawr y bryn. Ar waelod y cwm, o ddeutu SS 85182 88781, gellir gweld gwrthgloddiau Castell Llangynwyd trwy’r coed ar y chwith, drws nesaf at Fferm y Castell. Adeiladwyd y castell gan Arglwyddi Normanaidd Morgannwg, fel canolfan yn erbyn Arglwyddi Cymreig Afan. Fe’i llosgwyd gan wrthryfelwyr yn 1294 ac ni chafodd erioed ei ail-adeiladu.

Gwyrwch i’r chwith gan ddilyn y ffordd. Cerddwch i fyny’r bryn tuag at Gilfach. Yn SS 84503 88317, lle bo’r ffordd yn gwyro i’ch chwith, dilynwch y llwybr sy’n mynd i fyny i’r dde. Ar draws y caeau i’r dde i chi, mae fferm gaerog anferth o Oes yr Haearn a adnabyddir fel Y Bwlwarcau. Cerddwch ar hyd yr esgair tuag ardal fechan gaeedig a chaerog Caer Blaen-y-cwm sydd gerllaw man tarddu’r afon Cynffig (manylion pellach isod). Trowch i’r dde ar hyd y ffordd garegog sy’n croesi’r Cynffig yn SS 83446 87987, yna ewch dros y gamfa ar y dde a cherddwch i fyny un o’r ceuffyrdd cyfochrol a draw at yr ardal amgaeedig.

Dychwelwch at y llwybr. Yn SS 83203 87771 ewch yn syth ymlaen gan ddilyn y mynegbyst ar gyfer Llwybr San Illtud ac ewch yn eich blaen ar hyd ymyl dwyreiniol y goedwig. Cadwch lygad am geuffyrdd pellach oddi uchod i chi ar y chwith. Mae’ rhain yn dangos pa mor drwm oedd y traffig ar hyd y llwybr hwn yn y Canol-oesoedd. Yn SS 82820 87106 edrychwch o’ch blaen ac i’r dde ac fe gewch weld olion sylfeini fferm gaerog arall o’r Oes Haearn. Mae gan hon gylch mewnol llai a allai fod wedi cynnwys sawl adeilad, a chylch allanol llawer mwy, mae’n debyg er mwyn medru amddiffyn anifeiliaid dros nos.

Gellir gweld rhai o’r llwybrau pantiog yn croesi’r cae o’ch blaen, ond mae’r prif lwybr yn gwyro draw i’r dde, ac yn rhedeg rhwng y cloddiau a’r perthi i lawr at y mur mawr sy’n amgylchynu parc ceirw Margam. Mae’r llwybr yn mynd i lawr heibio i safle dwy fferm ganoloesol.

Dilynwch y llwybr i lawr trwy’r perthi rhododendron er mwyn croesi nant arall yn SS 80762 86571. Mae’r bryn o’ch blaen wedi ei goroni gan gaer arall, Mynydd y Castell. Mae hon yn fwy o amddiffynfa go iawn gyda mynedfa sydd wedi ei hamddiffyn mewn modd cyfrwys. Croeswch y nant a gwyrwch i fyny i’r chwith er mwyn archwilio’r gaer. Dewis arall yw troi yn chwyrn i’r chwith a mynd i lawr trwy Barc Gwledig Margam, er mae’n bosib y bydd angen talu tâl mynediad (gweler http://www.margamcountrypark.co.uk/default.aspx?page=1325 am fanylion pellach). Bydd hyn yn eich galluogi i gael cip ar adfeilion pen dwyreiniol eglwys yr abaty a’r clwysty gyda’i Gabidyldy wyth ochr nodedig.

Dilynwch y mynegbyst ar gyfer Ffordd San Illtud at glwyd gefn y parc sydd yn SS 80342 86611. Trowch i’r chwith a cherddwch at y ffordd sydd â tharmac arni ac yna droi i’r chwith eto a cherddwch heibio i’r llyn addurniadol (sydd o bosib ar safle pwll pysgod y mynachod) a’r ffoledd, y cafodd Christopher Rice Mansel Talbot ei adeiladu allan o gerrig a ddaeth o adfeilion yr abaty, ar safle gwreiddiol melin yr abaty. Gwyrwch i’r dde gyda’r ffordd ac yna trowch i’r chwith ac i’r chwith eto er mwyn cyrraedd pen gorllewinol eglwys yr abaty, sydd bellach wedi ei throi yn eglwys blwyf.

 
Llangynwyd i Fargam

Llefydd i ymweld â nhw yn ystod y daith hon

Llefydd

© Y Llwybr Sistersiaid / Polisi preifatrwydd