The lake at Margam

Margam: abaty, pentref ac Amgueddfa Gerrig Margam

Nid dim ond yr abaty sydd o ddiddordeb yn y pentref hwn!

Cyfeirnod grid: o gwmpas SS 801 863

Sefydliad Normanaidd oedd Margam a gychwynnwyd gan Robert Fitzroy, Iarll Caerlŷr a mab anghyfreithlon Harri’r I o Loegr, ym 1147. Daeth y grŵp gwreiddiol o fynachod o dŷ San Bernard ei hun yn Clairvaux. Rhoddodd Robert i’r sefydliad newydd hon ‘ei holl diroedd rhwng y Cynffig a’r Afan’. Roedd hyn yn 5,000 a rhagor erw o dir, y rhan fwyaf ohono yn nwylo’r Cymru o hyd. Roedd ei rhodd felly yn fwy o fynegiant o fwriad - ‘pan fyddaf i’n ei gael, fe’i cewch ef’ - a fyddai wedi bod yn gryn gymhelliad i’r mynachod weddïo am ei lwyddiant. O fewn rhai blynyddoedd fodd bynnag, roedd rheolwyr Cymreig lleol hwythau yn rhoi rhoddion hael o diroedd i’r sefydliad newydd, ac yn ceisio’r fraint o gael eu claddu o fewn ei muriau sanctaidd.

Yr unig beth sy’n weddill o’r adeiladau cynnar ym Margam yw corff yr eglwys, a newidiwyd wedi diddymu’r mynachlogydd i fod at ddiben y plwyf. Mae’r blaen gorllewinol yn rhan o’r gwaith adfer a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac wedi ei addurno mewn arddull Uchel Anglicanaidd. Y tu ôl i hwnnw fodd bynnag, mae cynllun yr adeilad yn ddigon tebyg i’r hyn y byddai San Bernard wedi ei ddymuno. Plaen, llym hyd yn oed, gyda phileri petryal anferth ac absenoldeb llwyr bron o unrhyw fanylion pensaernïol. Mae hwn yn ofod anferth wedi ei fwriadu’n llwyr ar gyfer gweddi a myfyrdod.

Mae gan yr eglwys hefyd gasgliad nodedig o feddrodau coffau ôl -ganoloesol i deulu’r Mansel, a brynodd y fynachlog a’r rhan fwyaf o’i thiroedd wedi diddymu’r mynachlogydd. Er gwaethaf hyn, roedd y teulu yn Gatholigion o ran anian, ac roedd Syr Rice Mansel a’r wraig ill dau wedi gwasanaethu Mari I.

Er mwyn gweld gweddill yr adeiladau mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu er mwyn cael mynediad i Barc Gwledig Margam.

Erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif, rodd y mynachod wedi dechrau anghofio am eu hegwyddorion cychwynnol o erwinder a symlrwydd. Prin fod yr eglwys gyntaf wedi ei hadeiladu nad oeddent wedi dechrau ar raglen ail-adeiladu uchelgeisiol. Cam cyntaf y rhaglen adeiladu hon oedd y Cabidyldy wyth ochr a oedd â fowt coeth mewn clwstwr o gwmpas y piler canolog. Yma y byddai’r mynachod wedi cyfarfod yn ddyddiol er mwyn gwrando ar rywun yn darllen pennod o’r rheol ac i drafod busnes dyddiol y gymuned.

Unwaith i’r Cabidyldy gael ei orffen, aeth y mynachod ati i adeiladu’r eglwys o’r pen dwyreiniol mewn arddull llawer yn fwy addurnedig. Roedd rhai problemau gyda’r cynllun, ac os edrychwch chi ar y ffenestri yn y groesfa ddeheuol fe welwch eu bod wedi eu gwasgu er mwyn iddynt fedru cael eu ffitio i mewn i’r gofod wrth ochr y cabidyldy. Yn ogystal mae mynedfa addurnedig oludog o’r clwysty i’r cabidyldy. Ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, ymddengys i’r arian brinhau ac ni chafodd pen gorllewinol yr eglwys ei hail-adeiladu erioed.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch yr abaty i’w gael o ymweld â http://www.monasticwales.org/site/30 .

Mae’r pentref bach mewn clwstwr o gwmpas drws gorllewinol yr eglwys. Mae’r hen ysgol wedi ei throi’n amgueddfa er mwyn darparu llety ar gyfer y casgliad trawiadol o gerrig cerfiedig Cristnogol cynnar y daethpwyd ar eu traws ar y safle. Mae’r rhain yn awgrymu y gallasai Margam fod wedi bod yn sefydliad mynachaidd cynnar o bwys a ddisodlwyd gan y Normaniaid. Mae disgrifiadau manwl iawn o’r cerrig i’w gael ar Wikipedia o ymweld â  https://en.wikipedia.org/wiki/Margam_Stones_Museum . Ar hyn o bryd mae mynediad wedi ei gyfyngu (2015) - gweler http://cadw.gov.wales/daysout/margamstonesmuseum/?lang=en am fanylion pellach.

Mae rhes o fythynnod yn rhedeg tua’r gorllewin hyd at fur y parc. Yn wreiddiol elusendai oedd y rhain, rhan o’r pentref a dyfodd o’r tu allan i furiau’r plasty yn dilyn diddymiad y mynachlogydd. Roedd stryd y pentref yn wreiddiol yn parhau i mewn i’r ardal sydd bellach yn barc. Gellir gweld yr olaf o’r bythynnod ar ochr arall mur y parc, ar y ffordd allan o’r pentref tuag at yr M4.

Places to margam: abaty, pentref ac amgueddfa gerrig margam

Llefydd

© Y Llwybr Sistersiaid / Polisi preifatrwydd