Crags above Bwlch y Clawdd

Ynghylch

Mwy ynghylch Prosiect Ffordd y Sistersiaid

‘Gwaith ar y gweill’ yw’r wefan hon - ac felly hefyd holl brosiect Ffordd y Sistersiaid. Dechreuwyd arno ym 1998 trwy geisio dod o hyd i ffordd y medrem gerdded o gwmpas Cymru, gan gysylltu’r holl abatai Sistersaidd o’r canol oesoedd a’r cyfnod modern. Roedd yn rhan o’r dathliad i nodi 900 can mlynedd ers sefydlu Urdd y Sistersiaid. Fe wnaethom weithio ar ddatblygu’r daith a’i cherdded eto yn 2005.

Ar y wefan hon medrwch weld y trywydd a ddilynwyd gennym ym 1998 a 2005, ynghyd â nodiadau ar welliannau a wnaed gennym ers hynny, llawer o wybodaeth gefndir ar y llefydd y bu i ni gerdded trwyddyn. Fe wnaethom ddilyn llwybrau â hawliau tramwyo sy’n bodoli eisoes, llwybrau a lonydd gwyrdd yn ogystal â chefnffyrdd tawel. Mae hyn yn golygu y medrwch gerdded y llwybr drosoch eich hun gan ddefnyddio mapiau’r  Arolwg Ordnans o Gymru.

Mae’n bosib y bydd mannau y bydd yn rhaid i chi weithredu ar eich liwt eich hun gan i ni redeg allan o amser a phan fu’n rhaid i ni gerdded ar hyd ffordd. Mae’n bosib hefyd y bydd yna fannau y byddwch chi’n dymuno ymweld â nhw nad oedd amser gennym ni wneud hynny, ynteu fanylion am y ffordd y byddwch chi’n dymuno eu rhannu.

Fe hoffem eich mewnbwn i’r prosiect hwn. Rhowch wybod i ni pa ffordd yr aethoch chi, beth ddaethoch chi ar ei draws, a’ch teimladau am y cyfan oll - a rhowch wybod i ni os ydych chi’n hapus i ni roi eich syniadau ar y wefan.

Pam ydym ni’n gwneud hyn? Roedd y Sistersiaid yn eithriadol o bwysig yn hanes Cymru. Roedd eu cred ym mhwysigrwydd bod yn hunangynhaliol a gweithio’n galed yn golygu eu bod yn ffermwyr penigamp, a nhw fu’n gyfrifol am glirio llawer o dir amaeth ucheldir Cymru.

Rhoddodd yr abatai Sistersaidd llawer o groeso a lletygarwch i feirdd a chroniclwyr Cymru. Y Sistersiaid a ysgrifennodd at y Pab i gefnogi hawliau brenhinoedd Cymru Llywelyn ap Iorwerth a Llywelyn ap Gruffydd, ac a gefnogodd Owain Glyndŵr yn ei ymdrech i adfer annibyniaeth Cymru. Y Sistersiaid a oedd yn gwarchod y cyrchfannau pererindota pwysicaf megis Pen-rhys. Mae adfeilion eu habatai ymhlith y mannau prydferthaf ac atgofus yn ein tirwedd.

Felly yn ystod ein troeon ym 1998 a 2005 fe ddaethant yn droeon trwy hanes Cymru. Ers hynny mae’r llwybr wedi tyfu i gynnwys pob math o lefydd diddorol - daeareg ryfeddol arfordir Sir Benfro, tomenni claddu o oes y cerrig, cestyll a ffermydd defaid o’r canol oesoedd, gerddi darluniadol prydferth a threftadaeth ddiwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Lle bu hynny’n bosib, rydym wedi ceisio defnyddio hen ffyrdd a llwybrau, megis llwybr y pererinion canoloesol o Lantarnam (ger y Cwmbrân modern yng Ngwent) dros fryniau Pen-rhys yn y Rhondda. Yng ngogledd-orllewin Cymru, cerddwn ar hyd rhan o Sarn Helen, y ffordd Rufeinig a oedd yn mynd o Gaerfyrddin i Gaernarfon. Mewn mannau eraill byddwn yn dilyn llwybrau camlas a thramffyrdd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Mae’r llwybr yn cyd-gysylltu nifer o lwybrau maith eraill Cymru. Bellach mae gennym lwybr sy’n dilyn arfordir Cymru yn ei grynswth o’r Gwy i’r Dyfrdwy. Medrwch gerdded trwy dde Cymru i gyd trwy Lwybr Coed Morgannwg a Llwybr Illtud, ymuno â Llwybr yr Arfordir ym Mhentywyn ynteu Farchros, cerdded tua’r gogledd o Ddinbych y Pysgod ar hyd Ffordd y Marchog ac yna Llwybr Ffin y Landsker, dilyn Taith Cambria i’r gogledd o Dregaron, dilyn Sarn Helen o Fachynlleth i Ddyffryn Conwy, mynd ar hyd Llwybr Arfordir gogledd Cymru cyn ymuno â Llwybr Clawdd Offa ger Treffynnon. Yn ogystal rydym wedi cynnwys rhai llwybrau byrrach sydd wedi eu cyfeirbwyntio, megis y llwybrau trwy goedwig yr Hafod ger Aberystwyth.

Mae’r llwybr cyfan yn 650 milltir - felly hwn fydd Llwybr Treftadaeth hiraf y DU. Mae’n bosib y byddai gwneud y cyfan ar unwaith yn ormod o her, ond efallai y byddai modd i chi wneud y cyfan fesul tipyn dros gyfnod o rai blynyddoedd. Neu wrth gwrs fe fedrech lunio taith gylchol sy’n rhan o Lwybr y Sistersiaid a llwybr arall. Er enghraifft: medrech ddilyn Llwybr y Sistersiaid o Lantarnam i Gastell Nedd, cerdded ar hyd Sarn Helen i Aberhonddu, yna ddilyn llwybr camlas Aberhonddu a Sir Fynwy yn ôl i Lantarnam. Os hoffech dro hirach, medrech ymadael â Sarn Helen ac ymuno â Thaith Cambria yr ochr uchaf i Ystradfellte a cherdded wedyn i Ystrad Fflur cyn dilyn Llwybr y Mynaich - y ffordd draddodiadol a ddilynwyd gan y mynaich o Ystrad Fflur i Abaty Cwm-hir, lle medrwch ail-ymuno â Llwybr y Sistersiaid unwaith eto. Yng ngogledd Cymru, medrwch gerdded o Gymer ger Dolgellau i gartref gwreiddiol Abaty Conwy ar Benrhyn Llŷn cyn dilyn Lôn Eifion a Llwybr Arfordir gogledd Cymru heibio i Gonwy i Dre Fasing ac yna yn ôl ar hyd Llwybr Mynydd Hiraethog a Thaith Clwyd cyn ymuno a ffordd Rufeinig Sarn Helen, ac yna’n ôl i Ddolgellau. Mae llu o gylchdeithiau byrrach y medrir eu cyflawni trwy ddefnyddio Llwybr y Sistersiaid a llwybr arfordir Cymru. Yn wir, mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Y peth pennaf yw y byddwch chi’n sicr o fod yn dilyn taith sy’n llawn o olygfeydd godidog ac o ddiddordeb hanesyddol.

Rydym wedi meddwl erioed am Lwybr y Sistersiaid fel llwybr i gerdded ar ei hyd yn anad dim arall. Fodd bynnag, mae rhai rhannau sy’n cyd-redeg â, ynteu’n defnyddio llwybrau beics Sustrans - megis y rhan o Bonterwyd i Fachynlleth ac yna ar hyd dyffryn Corris. Medrwch ddefnyddio Lon Eifion, llwybr beiciau Sir Gaernarfon er mwyn teithio o Glynnog tua Bangor, ac yna ymuno â Llwybr Beiciau gogledd Cymru rhwng Bangor a Phrestatyn. Dylai Lon Eifion a ffordd feiciau gogledd Cymru fod yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau plant, ond mae llwybrau beicio canolbarth Cymru wedi eu bwriadu ar gyfer beiciau mynydd ac yn arw braidd. Os mai marchogaeth yw eich diléit, mae yna rhai llwybrau meirch a lonydd gwyrdd, ond yn aml nid yw’r rhain cyn hawsed i’w defnyddio ag y dylent fod.

Mae gennym lawer o waith pellach i’w wneud ar y daith - a byddem yn croesawu pob cymorth o ran syniadau, ymchwil a cherdded ar lawr gwlad. Rydym wedi defnyddio llwybrau sydd eisoes â hawl tramwyo lle yr oedd modd gwneud hynny. Mae rhai o awdurdodau lleol Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol dros y blynyddoedd diwethaf - yn clirio, gosod cyfeirbwyntiau ar lwybrau, adeiladu camfeydd a phontydd troed. Mae gan eraill gryn waith i’w wneud eto. Mae llawer gormod o lwybrau wedi eu cau’n fwriadol gan weiren bigog ynteu eu rhwystro gan gafnau dwr. Ond mae’n amhosib i’r awdurdod lleol gorau gyflawni ei waith oni fo’r llwybrau yn cael eu defnyddio.

Cafodd y prosiect hwn gymorth a chefnogaeth nifer o sefydliadau, yn cynnwys canghennau o Gymdeithas y Cerddwyr, Prosiectau Leader, ymddiriedolaethau Groundwork ac awdurdodau lleol a chyrff cyffelyb er mwyn pennu’r ffordd yn derfynol a threfnu ei rheoli a’i chynnal. Dewch yn ôl yma yn gyson – cliciwch ar brif dudalen y wefan am fanylion rhannau o’r llwybr, a chysylltwch â ni os hoffech gyfrannu.

 

 

 

Llefydd

© Y Llwybr Sistersiaid / Polisi preifatrwydd